Ymateb Y Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: ‘Horizon 2020: Adroddiad Cyfnod 1’.

 

Medi 2012

Mae cyllideb Horizon 2012 yn parhau’n destun trafod. Rydym yn deall na fydd cyllideb gyffredinol yr UE yn cael ei chwblhau nes dechrau 2013 o bosibl, felly ni allwn wybod i sicrwydd beth fydd maint elfennau’r rhaglen fel Horizon 2020 hyd hynny.

Cyflwynir ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad isod:

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru, drwy lais Llywodraeth y DU ar y Cyngor Ewropeaidd, geisio diwygio cynigion drafft Horizon 2020 er mwyn i gyllideb Marie Curie Actions yn 2014 o leiaf fod yr un peth ag yr oedd yn 2013.  (paragraff 15)

Ymateb: Derbyn.

Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i hyrwyddo gallu ymchwilwyr i symud ar draws ffiniau a rhwng sectorau a meysydd ymchwil. Mae hefyd yn cefnogi mesurau i wella datblygiad gyrfa ymchwilwyr. Bydd gweithgareddau o’r fath yn cryfhau’r ardal Ymchwil Ewropeaidd. Mae ymchwilwyr o Gymru ac yng Nghymru wedi elwa ar gyllid drwy Marie Curie Actions.

Mae’r gyllideb ar gyfer Horizon 2020 yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau ar Fframwaith Ariannol Amlflwydd yr UE ar gyfer 2014-2020. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai bod yn ddarbodus gyda’r gyllideb yw ei phrif flaenoriaeth yn y trafodaethau hyn, ond mae’n credu y dylai ymchwil ac arloesedd dderbyn cyfran sy’n gymesurol uwch o’r gyllideb na chynnydd yn ôl chwyddiant yn unig. Ledled gweddill yr UE mae yna gefnogaeth gyffredinol i gynnal cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesedd ar lefelau cymharol uchel hefyd, o gymharu â meysydd rhaglenni eraill, gyda neu heb gwmpas cyllidebol mwy.

Mae’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, sy’n gyfrifol am y maes hwn, yn gofyn iddo wneud cais am y diwygiad hwn.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai’r cyfyngiadau ariannol yn sgil yr hinsawdd economaidd sydd ohoni olygu y bydd y gyllideb derfynol yn is na’r €80 miliwn a gynigir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Ni allwn wybod yn fanwl beth fydd lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gwahanol feysydd hyd nes y byddwn yn gwybod i sicrwydd beth fydd cyllidebHorizon 2020.

Mae’r proffil arfaethedig ar gyfer arian Marie Curie yn awgrymu y bydd yna gynnydd o 6.5% mewn cyllid dros gyfnod y rhaglen, er gwaethaf gostyngiad bychan yn 2014-15. Mae hyn i’w groesawu.

Goblygiadau Ariannol

Dim ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru geisio eglurder ar sut mae ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a'r dyniaethau yn cael ei gefnogi gan gynigion yr UE, a sut maent yn perthyn i Horizon 2020 yn benodol. (paragraff 16)

Ymateb: Derbyn

Mae cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ceisio prif ffrydio ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau ledled Horizon 2020 sy’n gam cadarnhaol ym marn Llywodraeth Cymru. Gall ymchwil yn y meysydd hyn ategu ac ychwanegu gwerth i ymchwil ac arloesedd technolegol mewn meysydd fel mabwysiadu newid ymddygiad a thechnoleg. Dylai’r cytundeb yn ‘Null Cyffredinol Rhannol’ y Cyngor i rannu’r chwe her gymdeithasol (‘cymdeithasau cynhwysol, arloesol a diogel’) yn ddwy ran alluogi ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau gael gafael ar gyllid yn haws mewn sawl maes allweddol. Bydd yr her gymdeithasol newydd – ‘Ewrop mewn byd sy’n newid: cymdeithasau cynhwysol, arloesol a myfyriol’ – yn canolbwyntio ar sut i greu cymdeithasau Ewropeaidd cydlynol, sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, yn agored, yn ffyniannus, ac yn cydnabod eu treftadaeth ddiwylliannol amrywiol.

Mae Grŵp Llywio’r DU ar Horizon 2020, sy’n cael ei arwain gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ar ran Llywodraeth y DU yn cyfarfod eto ym mis Medi a bydd uwch swyddog o Lywodraeth Cymru’n mynd i’r cyfarfod i gynrychioli buddiannau a safbwyntiau Cymru.

Goblygiadau Ariannol

Dim.

Argymhelliad 3

Dylid annog y Comisiwn Ewropeaidd i gyhoeddi amlinell yn dangos gwybodaeth yn ôl rhanbarth o geisiadau a wnaed, a phrosiectau llwyddiannus a ariannwyd gan y Rhaglen Ymchwil Fframwaith (FP7) a Horizon 2020. (paragraff 18)

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Roedd adroddiad monitro FP7 Blynyddol y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnwys tablau a oedd yn dangos cyfraddau cyfranogi fesul aelod-wladwriaeth. Roedd yr adroddiad diweddaraf (ar gyfer 2010), fodd bynnag, hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr elfen ranbarthol, gan ddefnyddio rhanbarthau NUTS 2. Mae’n cynnwys tabl o’r 50 rhanbarth sy’n cyflawni orau. Mae hyn yn cynnwys 5 yn Lloegr ac 1 rhanbarth yn yr Alban. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys prifysgolion ymchwil-ddwys mawr a chwmnïau mawr sy’n gwneud gwaith ymchwil hefyd. Nid yw’n cwmpasu ceisiadau, dim ond cyfraniadau llwyddiannus a’r gyfradd gyllido.

Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd reolau cyfrinachedd llym ar gyfer data Rhaglen y Fframwaith sy’n annhebygol o gael eu llacio. Daw’r data o gronfa ddata CORDA yr UE. Gall cynrychiolwyr yr aelod-wladwriaethau (yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn achos y DU) ac ambell sefydliad arall ddefnyddio e-CORDA, sef cipolwg bob chwe mis ar ddata CORDA. Gellir rhannu hyn gyda rhai rhanddeiliaid eraill, yn cynnwys y rhanbarthau. Gellir darparu’r wybodaeth i’r cyhoedd ond dim ond ar ffurf gyfanredol. Ni ddylid gallu adnabod cynigion a/neu ymgeiswyr unigol drwy’r data. Cyn belled â bod hyn yn bosibl, bydd Llywodraeth Cymru’n casglu’r data hwn a’i gyhoeddi. Ni fyddwn yn gallu cyhoeddi data am geisiadau ar gyfer rhanbarthau eraill er mwyn cymharu. Ni fydd prifysgolion yn gallu meincnodi perfformiad o hyn. Byddwn hefyd yn ysgrifennu i Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt ofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd ystyried cyhoeddi rhywfaint o ddata am gyfraddau ceisiadau, ond mae’r rheolau cyfrinachedd yn golygu na fyddai’r data hwn yn fanwl, gan fod rhaid atal cyhoeddi enwau ymgeiswyr unigol.

Goblygiadau Ariannol

Dim. Gan ddibynnu ar staff yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau i’w ddarparu, byddai Llywodraeth Cymru’n gallu prosesu’r data hwn o fewn cyllidebau cyfredol a’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Argymhelliad 4

Mewn ymateb i gasgliadau ac argymhellion ein hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad sy'n amlinellu ei safbwynt ar gynigion Horizon 2020. Rydym ni'n annog Gweinidogion Cymru i leisio eu safbwynt â Llywodraeth y DU a thrwy Senedd Ewrop.

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Mae dogfen Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr UE, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn amlinellu ein dull cyffredinol o ymdrin â Horizon 2020 a rhaglenni a chyllideb Ewropeaidd yn fwy eang. Yn gynharach eleni, anfonodd Prif Weinidog Cymru lythyr at y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth yn datgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r agenda symleiddio ac i’r ffocws ar fusnesau bach a chanolig yn Horizon 2020. Byddai’r alwad i gefnogi’r safbwynt hwn drwy Senedd Ewrop yn cael ei thrafod drwy ein papurau briffio a chyswllt rheolaidd gydag ASEau Cymru.

Goblygiadau Ariannol

Dim.

Argymhelliad 5

Dylai'r sector addysg uwch roi gwybodaeth am lefelau cymryd rhan yn y galw am geisiadau yn 2013 fel rhan o FP7, a fydd yn rhoi'r cyfle cyntaf i asesu a yw cefnogaeth benodol wrth ddrafftio a chyflwyno ceisiadau am gyllid yn dwyn ffrwyth. (paragraff 25)

Ymateb: (Ddim yn benodol i Lywodraeth Cymru, ond gweler Argymhelliad 15 isod, sy’n gysylltiedig.)

Argymhelliad 6

Dylai'r sector addysg uwch egluro sut bydd ei ddull o ganolbwyntio ar bedwar grŵp ymchwil yn gweithio'n effeithiol â'r ffocws ar dair her fawr yn strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru Llywodraeth Cymru. (paragraff 27)

Ymateb: (Ddim yn benodol i Lywodraeth Cymru, er bod Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru wedi siarad ag Is-ganghellor pob Prifysgol ymchwil-ddwys yng Nghymru ynglŷn â datblygu egwyddorion yr her fawr. Maent yn hapus i weithio gyda’r tair her fawr o ran cynlluniau Sêr Cymru Llywodraeth Cymru yn Gwyddoniaeth i Gymru.)

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru, mewn trafodaeth â sector addysg uwch Cymru, archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu menter CoFund o dan Horizon 2020 er datblygu proffesiynol parhaus staff academaidd. (paragraff 28)

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Ar hyn o bryd, mae menter CoFund yn gweithredu fel rhan o Marie Curie Actions a bydd yn rhan o raglen Horizon 2020 yn y dyfodol. Bydd cyfleoedd ar gyfer datblygu menter CoFund yn cael eu hystyried gyda’r sector addysg uwch wrth i drafodaethau ar Horizon 2020 fynd rhagddynt a phan ddaw'r rheolau sy’n rhaid eu gweithredu mewn perthynas ag unrhyw gyllid newydd yn gliriach. Mae yna gyfle i ystyried y defnydd o arian Sêr Cymru hefyd (ar gyfer elfen ysgol graddedigion) fel rhan o fenter CoFund, er bod amcanion rhaglen Sêr Cymru yn mynd y tu hwnt i ddatblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys materion fel gallu ymchwilwyr i symud a gwella ansawdd yr ymchwil.

Goblygiadau Ariannol

Byddai angen darparu arian cyfatebol ar gyfer unrhyw fenter CoFund y byddai Cymru yn cymryd rhan ynddi. Byddai angen i bob sefydliad sy’n gysylltiedig â’r cynllun ystyried amrywiaeth o ffynonellau ariannu. Ni ellir amcangyfrif ffigur nes cwblhau gwaith cwmpasu a nodi menter bosibl. Mae arian Sêr Cymru eisoes yn cael ei ddyrannu o fewn Llywodraeth Cymru.

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cymru leisio sut yn union y bydd yn gosod cyllid gan Horizon 2020 ochr yn ochr â Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i gael synergedd er mwyn gwella perfformiad Cymru wrth ennill cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi ac wrth fasnacheiddio'r gweithgarwch hwnnw. (paragraff 33)

Ymateb: Derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru’n nodi sut y bydd Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru yn cael eu cysoni gyda Horizon 2020 fel rhan o ddogfennau rhaglennu’r Cronfeydd Strwythurol. Mae’r rhain yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â sefydliadau ym mhob cwr o Gymru, yn cynnwys y sectorau addysg uwch a busnes. Disgwylir ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwedd 2012 / dechrau 2013.

Comisiynwyd Dr Grahame Guilford gan y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd i gynnal adolygiad annibynnol o drefniadau gweithredu rhaglenni’r Gronfa Strwythurol. Bydd hwn yn cynnwys adolygiad o’r cyfle i gryfhau’r broses o gyfuno ffrydiau ariannu’r UE.

Nid ydym am farnu canlyniadau’r adolygiad o broses a gweithredu’r bartneriaeth ymlaen llaw; fodd bynnag, gallwn ddisgwyl y bydd synergeddau’n cael eu nodi mewn dogfennau rhaglennu ochr yn ochr â disgrifiad o’r prosesau a gyflwynir i gyflawni’r synergeddau hynny. Bydd y cysoni hwn ac unrhyw ddulliau cydweithio yn cael eu nodi yn adran Cymru Cytundeb Partneriaeth y DU.

Goblygiadau Ariannol

Dim ar hyn o bryd.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru wthio strategaeth arbenigo clyfar, gan ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, sydd â'r nod o greu diwylliant go iawn o arloesi drwyddi draw yn y byd academaidd ac mewn diwydiant yng Nghymru. (paragraff 35)

Ymateb: Derbyn

Mae proses ymgynghori ar waith ar hyn o bryd ar gyfer llunio Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru a fydd yn bodloni gofyniad yr UE i gyflwyno ‘Strategaeth Arloesi Rhanbarthol ar gyfer Arbenigo Clyfar’ yng Nghymru. Gwahoddwyd grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’r broses hon. Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan yr Athro Kevin Morgan a Dr Adrian Healy o Brifysgol Caerdydd, a gyflwynodd dystiolaeth i’r pwyllgor hwn ac sy’n cynghori’r Comisiwn Ewropeaidd ar arbenigo clyfar.

Goblygiadau Ariannol

Dim goblygiadau newydd. Bydd y gost o ymgynghori a llunio’r strategaeth yn cael ei dalu o gyllidebau cyfredol. Ni fyddwn yn gwybod beth fydd goblygiadau ariannol camau gweithredu’r strategaeth nes cwblhau’r broses ymgynghori ar ddiwedd 2012.

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru, yn ei hadolygiad o WEFO, nodi sut bydd mwy o gefnogaeth effeithiol a hygyrch ar gael yn y dyfodol i ddatblygu arbenigedd a gallu sefydliadau addysg uwch a busnesau Cymru wrth baratoi ceisiadau o dan Horizon 2020. (paragraff 41)

Ei ystyried gydag:

Argymhelliad 12

Dylai Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i hadolygiad o drefniadau rheoli rhaglenni'r UE, sefydlu mecanweithiau i annog a chefnogi academyddion a chwmnïau yng Nghymru wrth wneud cais am gyllid ymchwil ac arloesi Ewropeaidd, gan gynnwys cefnogi teithio a rhwydweithio trawswladol a chostau partneriaeth ynghlwm wrth ddatblygu consortia llwyddiannus. (paragraff 43)

Ymateb i 10 a 12: Derbyn mewn Egwyddor

Comisiynwyd Dr Grahame Guilford gan y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd i gynnal adolygiad o drefniadau gweithredu cronfeydd strwythurol. Bydd ail ran yr adolygiad hwnnw’n edrych ar rôl bosibl Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn hyrwyddo a hwyluso mynediad i amrywiaeth eang o gyfleoedd ariannu’r UE (yn ogystal â chronfeydd strwythurol), yn cynnwys gwahanol raglenni sectorol yr UE.

Nid ydym am farnu canlyniadau’r adolygiad hwn ymlaen llaw (bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2013). Fodd bynnag, o ystyried y bydd arian ymchwil ac arloesi drwy Horizon 2020 yn un o raglenni sectorol mwyaf yr UE, gellir disgwyl y bydd unrhyw rôl bosibl i WEFO hwyluso mynediad i Horizon 2020 yn cael ei hystyried yn llawn. Bydd angen i unrhyw argymhelliad ystyried a dysgu gwersi o brofiad Cronfa Cydweithredu Cymru-Ewrop (WECF), sy’n darparu cymorth ariannol ar gyfer costau teithio, rhwydweithio a phartneriaeth.

Goblygiadau Ariannol

Dim ar hyn o bryd.

Argymhelliad 11

Dylai Llywodraeth Cymru annog holl sefydliadau addysg uwch Cymru i gyflogi swyddog trosglwyddo technegol, a dylai ofyn am adroddiadau rheolaidd ar berfformiad prifysgolion o ran nifer y ceisiadau am gyllid a gyflwynir a nifer y prosiectau sy'n cael eu masnacheiddio. (paragraff 42)

Ymateb: Derbyn

.Mae Llywodraeth Cymru’n credu bod pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn cyflogi o leiaf un swyddog trosglwyddo technoleg ar hyn o bryd. Nid yw teitlau’r holl swyddogion yr un fath â’i gilydd ond mae eu cyfrifoldebau yr un fath neu’n debyg. Mae ganddynt rwydwaith penodedig (Swyddogion Cyswllt Diwydiannol Cymru neu WILOs) sy’n trefnu dau neu dri chyfarfod y flwyddyn ond mae’r swyddogion yn cysylltu â’i gilydd ar lefel anffurfiol yn llawer amlach na hynny. Mae’r staff yma’n derbyn cymorth ariannol gan Bwyllgor Ymchwil, Arloesedd a Menter CCAUC ar hyn o bryd ac mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn mynychu eu cyfarfodydd lle bo’n briodol. Mae prifysgolion eisoes yn cyflwyno rhywfaint o ddata ar arian ymchwil a datblygu a masnacheiddio yn sgil y cymorth maent yn ei dderbyn gan CCAUC. Bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn i CCAUC ystyried y ffordd orau o sicrhau data digonol i allu adrodd ar y meysydd hyn, heb gynyddu’r baich rheoleiddiol ar Brifysgolion. Mae Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned blynyddol y DU yn casglu gwybodaeth eang am weithgaredd ym maes busnes, masnach ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach, yn cynnwys Prifysgolion Cymru. Nid yw’n dangos y wybodaeth hon fesul ffynonellau ariannu gwahanol yr UE, fodd bynnag.

Goblygiadau Ariannol

Dim i Lywodraeth Cymru. Byddai costau unrhyw gamau gweithredu yn cael eu talu o’r cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 13

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ystod eang o ddulliau arloesi i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gyfleoedd am gyllid Ewropeaidd er mwyn ymgysylltu â busnesau bach a chanolig yn fwy effeithlon. (paragraff 46)

Ymateb 13: Derbyn mewn Egwyddor

Mae Llywodraeth Cymru’n deall bod yr UE yn dymuno cynyddu cyfraniad busnesau bach a chanolig yn ei raglenni ymchwil, datblygu ac arloesedd a bod hyn yn wir am raglen Horizon 2020 hefyd.

Mae Is-adran Arloesedd adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru’n gwneud gwaith cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ymchwil, datblygu ar arloesedd a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n defnyddio cymysgedd marchnata priodol o ddigwyddiadau, llenyddiaeth, astudiaethau achos a chyfarfodydd i gyrraedd busnesau Cymru. Gall gwahoddiadau Rhaglen Fframwaith Saith am arian fod yn rhy academaidd yn aml i lawer o fusnesau bach a chanolig, ond gall rhaglenni Arloesedd a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop neu Gronfa Gymdeithasol Ewrop yr UE fod yn fwy perthnasol i brosiectau arloesedd busnesau bach a chanolig. Bydd angen i ddulliau codi ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru amlygu sbectrwm eang  cyfleoedd ariannu’r UE i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Goblygiadau Ariannol

Dim ar hyn o bryd, y tu hwnt i’r gwaith cyfredol sydd eisoes wedi’i ariannu.

Argymhellion 14

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid ar ddatblygu cysylltiadau, gallu i gael arbenigedd rhyngwladol a gweithgaredd gan gwmnïau mawr er mwyn ymgysylltu â chymunedau arloesi gwybodaeth ar ôl-Horizon 2020. (paragraff 50)

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Gall y Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol sy’n cael eu sefydlu yng Nghymru fod yn ffordd effeithiol o gael busnesau a sefydliadau ymchwil priodol i gymryd rhan gyda chymunedau gwybodaeth ac arloesedd (KICs) nawr ac yn y dyfodol. Rhan o swyddogaeth y Rhwydweithiau hyn yw annog mwy o fusnesau a sefydliadau Cymru i fanteisio ar gyfleoedd gan yr UE. Mae’r tair KIC gyfredol o dan fantell Sefydliad Technoleg Ewrop ac yn cael eu harwain gan brifysgolion blaenllaw ar raddfa Ewropeaidd. Er na fydd sefydliadau addysg uwch Cymru yn debygol o fod yn bartneriaid craidd mewn rhaglen KIC, mae Llywodraeth Cymru’n credu y dylem barhau i’w hannog i fod yn rhan o’r rhwydweithiau hyn, lle bo’n bosibl. Dim ond un sefydliad o Gymru sy’n rhan o rwydwaith o’r fath ar hyn o bryd sef Prifysgol Aberystwyth - fel partner cyswllt academaidd y KIC Hinsawdd. Nid ydym yn gwybod am unrhyw fusnes o Gymru sy’n rhan o rwydwaith o’r fath.

Goblygiadau Ariannol

Dim – bydd costau unrhyw waith i annog Prifysgolion a busnesau priodol i fod yn rhan o KICs nawr neu yn y dyfodol yn cael eu talu o gyllidebau cyfredol, fel y cyllid cyfredol ar gyfer Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol o dan Sêr Cymru.

Argymhelliad 15

Dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd â sefydliadau addysg uwch, nodi'r ffordd orau o gasglu a chydgysylltu data cywir ar y cydweithio a rhwydweithio cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cynnwys sefydliadau o Gymru sy'n gwneud cais am gyllid o dan Horizon 2020, a dylent fonitro perfformiad Cymru yn hyn o beth yn y maes hwn. (paragraff 53)

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod agwedd gysylltiedig sef data ceisiadau o dan ei hymateb i argymhelliad 3 uchod. Y tu hwnt i hyn, ni fydd hi’n hawdd cael gwybodaeth ganolog am aelodau’r rhwydwaith. Gall Prifysgolion Cymru rannu gwybodaeth drwy eu rhwydweithiau eu hunain, yn bennaf trwy Grŵp Swyddogion Cyswllt Ewropeaidd Addysg Uwch Cymru, er mwyn gwybod pwy sy’n gweithio mewn maes penodol ac â phwy mae’r rheiny yn gweithio. Mae ymgeiswyr posibl eraill am arian FP7 a Horizon 2020 yn y dyfodol yn rhydd i hysbysebu am bartneriaid. Mae rhwydwaith Menter Ewrop yn un ffordd o hysbysebu. Mae rheolau cyfrinachedd CORDA/e-CORDA yn atal cyhoeddi data ar lefel a fydd yn golygu bod modd adnabod yr ymgeiswyr. Byddwn yn ysgrifennu ac yn gofyn a oes modd darbwyllo’r Comisiwn Ewropeaidd i gyhoeddi mwy o ddata, yn cynnwys data am geisiadau (fel y nodwyd yn ymateb i 3 uchod), ond ni fydd hyn yn ddefnyddiol ar gyfer cael gwybodaeth am bawb sy’n cymryd rhan, oherwydd y gofynion cyfrinachedd. Gellir defnyddio gwefan expertisewales.com i hysbysebu am gydweithwyr posibl neu eraill sy’n gweithio mewn maes ymchwil penodol.

Goblygiadau Ariannol

Dim. Bydd costau unrhyw waith yn y maes hwn yn cael eu talu o gyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 16

Dylai Llywodraeth Cymru hybu unigolion o sector addysg uwch a busnes Cymru i gymryd rhan fel cynghorwyr arbenigol yn rhaglenni FP7 a Horizon 2020 ac yn rhwydweithiau ymchwil, arloesi a thechnoleg ar lefel yr UE a llwyfannau sefydledig ym Mrwsel, er mwyn gwella proffil a pherfformiad Cymru yn y maes hwn. (paragraff 55)

Ymateb: Derbyn

Mae Gwyddoniaeth i Gymru a dogfennau eraill, fel Adroddiad Pwyllgor Ymchwil, Arloesedd a Menter CCAUC ar Ymchwil ac Adroddiad y Gweinidogion ar Ymchwil eisoes wedi nodi eu bod o blaid cyrff ariannu’r DU yn cymryd llawer mwy o ran ac mae hynny’n llawn mor wir hefyd yn achos y rhaglenni Ymchwil UE hyn. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i annog unigolion a’u sefydliadau a’u busnesau i gymryd rhan ar bob lefel. Yn y pen draw, mae llwyddiant yn dibynnu ar gael unigolion â’r cefndir a’r ymroddiad iawn i roi o’u hamser a’u doniau. Mae’r her hon yn parhau.

Goblygiadau Ariannol

Dim i Lywodraeth Cymru. Bydd costau unrhyw waith i annog cyfranogiad o’r fath yn cael eu talu o’r cyllidebau cyfredol.